Sister Bethan James

Practice Nurse

Cafodd Brechlynnau Eu Datblygu’n Ddiogel

Mae’r GIG yn dweud wrthym ni bod Brechlynnau COVID-19 wedi’u datblygu ar ôl bodloni safonau llym o ran diogelwch, ansawdd ac effeithlonrwydd, sef safonau y mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) annibynnol wedi’u gosod.
 
Mae’n rhaid i unrhyw frechlyn coronafeirws sy’n cael ei gymeradwyo fynd trwy’r holl dreialon clinigol a gwiriadau diogelwch y mae’r holl feddyginiaethau trwyddedig eraill yn mynd trwyddyn nhw.
 
Mae’r MHRA yn dilyn safonau diogelwch rhyngwladol.
 
Mae’r amser hir y mae fel rheol yn ei gymryd i ddatblygu brechlyn wedi’i osgoi oherwydd cydweithredu gwyddonol byd-eang na welwyd mo’i fath o’r blaen, llwybrau datblygu paralel a’r ffaith bod yna fwy o lawer o gyllid ar gael.
 
Mae pobl o nifer o genhedloedd ac o bob cefndir wedi bod yn rhan o dreialon brechlyn COVID-19, gan gynnwys grwpiau gwynion, duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig cymysg.

Sgil-effeithiau Brechlyn COVID-19

Mae’r MHRA yn dweud wrthym ni bod Brechlyn COVID-19, fel pob brechlyn, yn gallu achosi sgil-effeithiau, er nad ydy pawb yn eu cael. Mae mwyafrif y sgil-effeithiau’n ysgafn neu’n gymedrol ac maen nhw’n diflannu o fewn ychydig o ddiwrnodau ar ôl ymddangos.
 
Mae miliynau o bobl wedi cael y brechlyn ac mae adroddiadau am sgil-effeithiau difrifol, fel adweithiau alergaidd, wedi bod yn brin iawn.
 
Mae’r risg fach o gael sgil-effeithiau ysgafn neu dymor byr yn llai o lawer na risgiau cymhlethdodau tymor hir neu farw o COVID-19.

Eglurhau Cynhwysion Brechlyn COVID-19

Nid oes unrhyw borc na chynhyrchion anifeiliaid eraill yn y brechlynnau sydd ar gael ar hyn o bryd.
 
Mae brechlyn Astra Zeneca Rhydychen yn cynnwys ethanol mewn swm sy’n llai na’r hyn sydd i’w gael mewn bwydydd naturiol neu fara. Mae ysgolheigion Mwslimaidd o’r farn bod modd caniatáu’r brechlyn hwn gan nad oes brin unrhyw alcohol ynddo [12].

Mythau Ynglŷ nâ’r Brechlynnau

Ni fydd y brechlyn yn newid eich DNA .
 
Ni fydd y brechlyn yn rhoi coronafeirws ichi.
 
Ni fydd y brechlyn yn achosi anffrwythlondeb.
 
Nid yw’r brechlyn yn cynnwys unrhyw sglodion neu systemau tracio i gadw llygad arnoch chi.

Mae brechlynnau COVID-19 yn effeithiol iawn

Mae’r brechlyn yn lleihau yn sylweddol y posibilrwydd o ddioddef o COVID-19 neu gael symptomau difrifol pe baech chi’n datblygu’r haint.
 
Mae ein gwyddonwyr a’n harbenigwyr meddygol blaenllaw yn argymell brechu oherwydd y dystiolaeth gadarn ei fod yn gweithio.
 
Fodd bynnag, nid yw’n ein hamddiffyn 100% felly mae angen i ni barhau â hylendid dwylo da, gwisgo masg a chadw pellter cymdeithasol nes y bydd mwyafrif y boblogaeth wedi cael y brechlyn.

Diogelu Pobl Eraill

Bydd cael y brechlyn COVID-19 yn eich diogelu chi, eich teulu, eich ffrindiau a’ch cymuned.
 
Mae bobl dros 65 oed deirgwaith yn fwy tebygol o farw os y byddan nhw’n dal COVID.
 
Meddyliwch am sut y byddwch chi’n teimlo os fyddwch chi ddim yn cael eich brechu ac yn dioddef ohono neu’n rhoi COVID-19 i rywun arall [19].

Mynd yn Ôl i Fywyd Arferol

Bydd cael y brechlyn COVID-19 yn ein helpu i fynd yn ôl i fywyd arferol.
 
Trwy wneud yn siŵr bod lefelau imiwnedd cynifer o bobl â phosibl yn uchel, gallwn ni symud ymlaen tuag at fywyd arferol eto.

Mythau am COVID-19

Myth: ‘Dydy COVID-19 ddim gwaeth na’r ffliw’
Y gwir: Rydych chi ddeg gwaith yn fwy tebygol o farw o haint COVID na’r ffliw ac rydych chi hefyd yn fwy tebygol o fod yn sâl am 30 diwrnod neu fwy.
 
Myth: ‘Dylen ni jest aros am imiwnedd torfol.’
Y gwir: Byddai hyn yn arwain at nifer drychinebus o farwolaethau.

Mae’ch Brechlyn yn Hollbwysig

Rydych chi’n allweddol i sicrhau bod eich cymuned yn dod yn imiwn gan fod angen i ni fod ag 80% wedi’u brechu. Mae gennych chi ran bwysig iawn i’w chwarae yn yr ymdrech genedlaethol – dim ond pan fyddwch chi ac eraill wedi cael eich brechu y byddwn ni’n gallu dychwelyd i fywyd arferol.

The information in this app is correct at the time of publication. To view the latest Government and NHS information on Covid-19 guidance, vaccines and side effects please click here to view a list of websites where you will be able to find out more information on specific topics.

Rydych Chi Mewn Cwmni Da Os Ydych Chi’n Dewis Cael y Brechlyn